Home

Rwy’n Gofyn am Eich Cefnogaeth i’m Hethol yn Rhif Un ar Restr Dwyrain De Cymru / I’m Asking for Your Support to Elect Me Number One for the South Wales East List

Note: This is a bilingual website. Depending on how you’ve viewing it, you may need to occasionally scroll down to find your preferred language.

Rwyf wedi bod yn Aelod o’r Senedd ers blwyddyn a hanner. Rwy’n gobeithio fy mod wedi llwyddo i ddangos i aelodau yr hyn rwy’n gallu ei wneud yn yr amser byr hwn, ac y byddwch chi fel aelodau o’r Blaid eisiau i mi barhau i’ch cynrychioli. Byddwn yn gofyn i chi fy marnu ar sail fy record hyd yn hyn ac os ydych chi’n cytuno gyda fy ngweledigaeth wleidyddol a fy nghynllun i dyfu Plaid Cymru yn y rhanbarth. Rwy’n caru Plaid Cymru ac yn gwybod fod gen i gymaint mwy i’w roi. Cefnogwch fi er mwyn i mi allu defnyddio fy sgiliau a fy angerdd i ddod â llwyddiant i’r Blaid a’n symud yn agosach at annibyniaeth.

I’ve been a Plaid Cymru Member of the Senedd for a year and a half.  I hope that in that short time I’ve proved what I’m capable of, and that you as party members will want me to continue to represent you.  I would ask that you judge me based on my record so far and whether you agree with my political vision and my plan to grow Plaid Cymru in the region. I love Plaid Cymru and know that I have so much more to give. I ask you to support me so I can use my skills and passion to bring success to the party and take us closer towards independence.

Gweledigaeth / Vision

Crynodeb o fy mlaenoriaethau gwleidyddol / A summary of my political priorities

Tyfu’r Blaid / Growing the Party

Fy nghynllyn pum-pwynt ar gyfer tyfu’r Blaid yn ein rhanbarth / My five-point plan for growing the party in the region

Fy Record / My Record

Yr hyn rwyf wedi ei gyflawni yn y flwyddyn a hanner ers i mi gael fy ethol / What I’ve achieved in the year and a half since I was elected


I’ve known and worked with Delyth over many years, she is someone I trust completely to further the party’s cause

Dafydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus / Honorary President

Mae ei chariad at ei hardal a’i chenedl, ei hegwyddorion cadarn a’i gweledigaeth glir yn disgleirio, ac wedi ennill iddi gefnogaeth frwd fel un o aelodau mwyaf effeithiol ein Senedd

Dafydd Iwan, Arwr Cenedlaethol / National Hero

Mae gan Delyth rôl bwysig i’w chwarae yn llwyddiant Plaid Cymru yn y dyfodol, felly mae’n hanfodol ei bod hi’n cael ei dychwelyd i’r Senedd

Liz Saville Roberts, AS/MP Dwyfor Meirionnydd

Delyth is a formidable politician with strong values who helps to project Plaid Cymru as a positive, open and diverse party.  We need her to carry on what she has started, so I’d urge members to give her their full support

Leanne Wood, AS/MS Rhondda

Ynghylch / About

Dyma wefan ymgyrch Delyth Jewell ar gyfer etholiad Plaid Cymru i ddewis prif ymgeisydd ar gyfer rhestr Dwyrain De Cymru // This is Delyth Jewell’s campaign website for the Plaid Cymru election to choose the main candidate for South Wales East.

Get in Touch

Os oes gynnych gwestiynau yr hoffech ofyn i Delyth, mae croeso i chi gysylltu dros ebost. // If you have questions for Delyth you are welcome to get in touch via email.

dnjplaid@gmail.com

Amser Tan yr Etholiad / Time Until the Election

2020-10-05T20:01:00

  days

  hours  minutes  seconds

until

Rwy’n ddiolchgar dros ben i’r holl bobl sydd yn cefnogi fy ymgyrch i fod yn rhif un ar gyfer Plaid Cymru ar restr Dwyrain De Cymru. Dyma’r geiriau caredig sydd gennym nhw i ddweud amdanaf. Fideos Cymraeg ar y chwith neu ar y top os ydych yn gwylio ar eich ffôn.

I’m extremely grateful to all the people who are supporting my campaign to be number one for Plaid Cymru on the South Wales East list. Here are the kind words they’ve said about me. English language videos on the right hand side or below if you’re viewing on your phone.

Dafydd Wigley

Mae Cymru angen y lefel o sgiliau sydd gan Delyth yn ein Senedd genedlaethol os ydym am adeiladu Cymru i’r dyfodol, gwlad annibynnol sy’n dibynnu ar y goreuon o’n pobl ifanc.

Wales needs Delyth’s skills in our national Senedd if we are to build a Wales for the future, an independent Wales that depends on the abilities of its young people

Leanne Wood

Mae Delyth yn wleidydd eithriadol sydd â synnwyr cryf o’i gwerthoedd a’i hegwyddorion, ac mae hi’n esiampl dda i bobl ifanc a menywod mewn gwleidyddiaeth.

Delyth is a formidable politician with a strong sense of values and principles and she’s a good role model for young people and women in politics.

Mike Russell MSP (Scottish Government Cabinet Secretary for the Constitution, Europe and External Affairs)

Rwyf wedi fy ysbrydoli gan y cyfraniad gwych mae Delyth yn ei wneud yn barod ac y bydd hi’n ei wneud i annibyniaeth ei gwlad.

I’m impressed and inspired by the contribution Delyth is already making and will make to the independence of her country.

Liz Saville Roberts

Rydan ni angen rhywun fydd yn chwarae rôl, nid jest yn nyfodol Plaid Cymru, ond yn nyfodol Cymru ein gwlad, ac rwy’n gofyn i chi roi Delyth yn gyntaf ar y rhestr achos trwyddi hi mi fyddwn ni’n gwneud ein rhan ni i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru.

The one thing that we need now, that Plaid Cymru needs, is Delyth’s clear vision, her clear enthusiasm for our future, not just our future as a party, but as a key part of the future of Wales. So please, when you cast your vote for the regional list, support Delyth Jewell, support our future.

Dafydd Iwan

Mae Delyth bellach yn un o’n haelodau mwyaf effeithiol yn y Senedd oherwydd clirder ei gweledigaeth a dyfnder ei hargyhoeddiad. A mae hi bob amser yn cael ei gyrru gan ei chariad mawr at Gymru a’i phobl.

Delyth is now one of the most effective members of the Senedd due to the strength of her convictions and the clarity of her vision. And she’s always driven by her great love for Wales and its people.

Elfyn Llwyd

Am rhai blynyddoedd bum yn gweithio gyda Delyth yn y tîm yn Llundain ac fe allaf dystio iddi fod yn ferch ddisglair, gweithgar a hollol dryw.

I worked with some years with Delyth in the team in Westminster and I can say that she stood out then due to her abilities, her huge workrate and absolute loyalty

Cefnogaeth ar Draws y Rhanbarth / Support Across the Region

Mae’n bwysig bod aelod rhanbarthol yn cynrychioli’r rhanbarth cyfan. Rwy’n gobeithio bydd y ffaith fod gen i gefnogaeth o bob etholaeth yn dangos fy mod yn Aelod o’r Senedd sy’n gwneud ei gorau glas dros bob rhan o’r De Ddwyrain.

It’s essential that a regional member represents the whole region. I hope the fact I have support from every constituency shows that I’m a Member of the Senedd who does her very best for every part of the South East.

Blaenau Gwent

Gail Davies, Mam Steffan Lewis ac Aelod Plaid Cymru

Gail Davies, Steffan Lewis’s mum and Plaid Cymru Member

Rydw i yn cefnogi Delyth Jewell i fod yn rhif un ar restr rhanbarthol Dwyrain De Cymru ar gyfer etholiad Senedd 2021.

Roedd gan fy mab, Steffan Lewis, feddwl mawr o Delyth ac ar ôl i mi ei chyfarfod fy hun, roeddwn yn deall pam ei fod mor hoff ohoni.

Mae Delyth yn ddeallus a chynnes. Mae hi’n teimlo mor gryf dros ein cymunedau, ein gwlad ac ein cymdeithas. Mae’n bwysig iawn i mi i gefnogi rhywun sy’n rhannu’r gwerthoedd roedd Steff yn eu harddel mor ddwfn, rhywun alla i ymddiried ynddi i gadw ei fflam ynghyd, rhywun sy’n rhannu ei synnwyr cryf o gyfiawnder cymdeithasol. Rwy’n gwybod mod i’n gallu ymddiried yn Delyth gyda hyn, gan ei bod hi’n rhannu’r gwerthoedd hynny.

Rwy’n gofyn i chi gefnogi Delyth ar gyfer y rhestr rhanbarthol fel bod pobl Gwent a rhanbarth y de ddwyrain yn gallu parhau i’w chael hi’n ein cynrychioli.

I will be supporting Delyth Jewell for the number one position on the South Wales East regional list for the Senedd 2021 elections. 

My son, Steffan Lewis, always spoke highly of Delyth, and as soon as I met her myself, I understood why he always spoke about her in such glowing terms. 

Delyth is intelligent and warm.  She cares deeply, for people, for our communities and our country, for society.  It’s very important to me to support someone who shares the values that Steff held so deeply, somebody that I can trust to keep his legacy alive, somebody who shares his deep and unswerving sense of social justice and I know that I can trust Delyth with that, that she shares those values. 

Please support Delyth in the regional list selection so that the people of Gwent and the south east region can continue to have her represent them. 

Caerffili

Colin Mann, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili

Colin Mann, Plaid Cymru Group Leader on Caerphilly Council

Mae Delyth wedi gwneud gwaith ardderchog yn y Senedd, yn enwedig o ystyried y sefyllfa oedd hi’n wynebu yn dilyn colled anamserol Steffan. Rwy’n hapus dros ben i’w chefnogi fel ymgeisydd dros Blaid Cymru.

Delyth has done an excellent job in the Senedd, especially when you consider the difficult circumstances which faced her with the untimely loss of Steffan.  I have no hesitation in endorsing her as a Plaid candidate.

Huw Jackson, Ysgrifennydd etholaeth Caerffili

Huw Jackson, Caerphilly constituency Secretary

Mae Delyth ond wedi bod ar y llwyfan wleidyddol am 18 mis ac yn yr amser hwn wedi swyno pawb gyda’i brwdfrydedd, deallusrwydd a’i gallu i siarad gyda phawb. Mae hi wedi dangos sut mae hi’n gallu brwydro’n ffyrnig o falconi neuadd tref Merthyr i balmentydd Caerffili. Mae’n rhaid i Delyth barhau i fod yn rhan o ddyfodol Cymru yn y Senedd.

Delyth has only been fully back on the political scene  for  18 months and in that short time has impressed everyone  with her vigour, intellect and ability to engage with everyone.  She has  shown what a fighter she can be from  the balcony of Merthyr Town Hall to the pavements of Caerffili.  Delyth must continue to be part of the future of Wales in the Senedd.  

Dwyrain Casnewydd / Newport East

Imam Sis, Cefnogwyr Plaid Cymru ac ymgyrchydd dros gyfiawnder i’r Cwrdiaid

Imam Sis, Plaid Cymru supporter and campaigner for justice for the Kurdish people

Mae Delyth wedi bod yn cefnogi’r frwydr genedlaethol dros hawliau dynol ar gyfer heddwch a rhyddid yn gwbl ddiffuant. Mae hi wedi bod yn gyfaill hanfodol ac wedi dangos mai nid dim ond geiriau sydd ganddi, ond gweithredoedd. Roedd ei chynnig yn y Senedd gyda chefnogaeth i mi a fy nghymuned yn ystod fy ympryd mewn protest yn erbyn triniaeth annerbyniol arweinydd y Cwrdiaid, Abdullah Ocalan, a’i geiriau cynnes tuag at y gymuned Gwrdiaidd yw’r rhesymau pam y byddaf i yn pleidleisio dros Delyth. Fe wnaeth ei chynnig alluogi ein llais i gael ei glywed dros y wladwriaeth a bydd ei geiriau, “mae’r cynnig hwn ynghylch hawliau dynol” yn aros gyda ni am byth.

Delyth has been a true supporter of our international Struggle for peace and freedom. She has been a true friend and showed that she was not just all words but full of active work. Her motion in the Senedd with support for me and my community during my hunger strike in protest against the isolation and arbitrary treatment of Kurdish Peoples leader Abdullah Ocalan, her warm words towards the Kurdish community are all reasons why I’ll be voting Delyth. Her motion helped us make our voices be heard nation wide, her words “The motion is about human rights”, will stick with us forever.

Gorllewin Casnewydd / Newport West

Elin Maher, Aelod ac ymgyrchydd Rhieni dros Addysg Gymraeg

Elin Maher, Member and campaigner for Rhieni dros Addysg Gymraeg (Parents for Welsh Language Education)

Mi fyddaf yn pleidleisio dros Delyth Jewell ar gyfer y lle cyntaf ar restr ranbarthol De Ddwyrain Cymru. Mae angen llais gwybodus a chadarn, ac mae Delyth wedi dangos y rhinweddau hyn yn gyson dros ei chyfnod cyntaf yn y Senedd. Mae ei hangerdd, a’i dealltwriaeth o anghenion ei hardal yn ei gwneud yn ymgeisydd delfrydol i gynrychioli cymunedau amrywiol ein rhanbarth.

I will be voting for Delyth Jewell to be first on the regional list for South East Wales. We need a knowledgeable and firm voice, Delyth has consistently shown these  qualities throughout her first term in the Senedd. Her passion, and her knowledge of local needs make her the ideal candidate to represent the diverse communities in our region.

Islwyn

Keith Lloyd, cyn gynghorydd Plaid Cymru

Keith Lloyd, former Plaid Cymru councillor

“Rwyf wedi cael fy mhlesio gyda Delyth ers iddi gael ei hethol ac wedi cael fy nharo gan pa mor dda mae hi’n delio gyda chyfweliadau yn y wasg a’r ffordd mae hi’n llwyddo i ddadlau mor effeithiol. Rwyf hefyd yn gallu gweld ei bod hi’n weithgar dros ben yn y rhanbarth, felly rwy’n hapus dros ben i roi fy nghefnogaeth iddi.”

“I’ve been impressed with Delyth since she took office and have been struck by how well she deals with media interviews and always manages to get her points across effectively. I have also been impressed with how hard she works in the constituency, so I’m pleased to give her my support.”

Merthyr

Phyl Griffiths, Yes Cymru Merthyr Tudful

Rwy’n ysgrifennu nodyn i frolio cyfraniad Delyth Jewell tuag at yr orymdaith annibyniaeth a gafodd ei chynnal ym Merthyr ym mis Medi’r flwyddyn ddiwethaf. Roedd ei haraith ysbrydoledig o falconi’r Tŷ Coch heb os nac oni bai yn un o uchafbwyntiau’r dydd ac mae ar gael ar YouTube i unrhywun sydd â diddordeb ail fyw y pŵer, angerdd ac argyhoeddiad ei geiriau’r diwrnod hwnnw.

Yr hyn dyw pobl ddim yn wybod ydi am gyfraniad allweddol Delyth i’r orymdaith tu ôl i’r lleni, yn yr wythnosau yn arwain at y diwrnod mawr.

Gan fod gan yr awdurdod lleol ddim profiad blaenorol mewn delio gyda digwyddiadau o’r math yma, roedd eu tacteg yn edrych fel eu bod yn rhoi rhwystrau yn ein ffordd ar bob cam – efallai yn y gobaith y byddan ni yn rhoi’r ffidil yn y to a cherdded i ffwrdd. Dyma’r pwynt pan wnaeth Delyth gamu mewn a chynghori, gan ddefnyddio ei phrofiad gyda digwyddiadau tebyg mewn awdurdodau eraill. Mae’r ffaith fod gen i fwy na dwsin o ebyst gyda chyngor ac argymhelliadau ganddi yn ystod y cyfnod hwn yn dangos yn glir fod cymorth amserol Delyth yn allweddol er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen – gyda dim ond dau ddiwrnod i sbario!

Diolch yn fawr iawn i ti Delyth a phob lwc – roedd dy gyfraniad i’r gwaith o symud y maen i’r wal yn amhrisiadwy.

I write to note and praise the contribution made by Delyth Jewell to the Welsh independence march held in Merthyr Tudful in September of last year. Her inspirational speech delivered from the balcony of Red House was undoubtedly one of the day’s highlights and can be seen on YouTube by anyone who wishes to re-live the power, passion and conviction of the words she spoke on that day.

What is less well known about her contribution to the march was her role behind the scenes and, in the weeks leading up to the big day, Delyth’s help was key.

As the local authority had no previous experience of dealing with events of this type, their tactic appeared to be to put obstacles in our way at every turn – possibly in the hope that we’d eventually give up and go away. It was at this point that Delyth was able to step in and advise, using her experience of similar events across neighbouring authorities. The fact that I have over a dozen emails of advice and suggestions from her during this period leaves me in no doubt that Delyth’s timely help was instrumental in us getting the green light – with just a couple of days to spare!

Thank you Delyth and good luck – your contribution in getting us over the line was priceless.

Mynwy / Monmouth

Janet Davies, Cyn Aelod Cynulliad, Ysgrifennydd etholaeth Mynwy

Janet Davies, former Plaid Cymru AM, Secretary of Monmouth constituency

Rwyf wedi my mhleisio gyda pherfformiadau cryf Delyth ers iddi ddod yn Aelod o’r Senedd o ran ei gwaith caled, ei meddwl disglair a’i thalent naturiol fel gwleidydd.

I’ve been impressed with Delyth’s strong performances since she became a Member of the Senedd last year in terms of her hard work, keen mind and natural talent as a politician.

Torfaen

Morgan Bowler-Brown, ymgeisydd Senedd Cymru Plaid Cymru yn Nhorfaen

Morgan Bowler-Brown, Senedd candidate for Plaid Cymru in Torfaen

Fi yw Morgan Bolwer-Brown, rwy’n aelod ifanc o Blaid Cymru sydd wedi sefyll mewn etholiad San Steffan dros y Blaid yn Nhorfaen, ac rwy’n cefnogi Delyth Jewell fel fy newis rhif un ar gyfer rhestr rhanbarthol Dwyrain De Cymru. Ers dod yn Aelod o’r Senedd mae Delyth wastad wedi bod yna i gefnogi’r rhanbarth gan ddangos hefyd ei bod hi’n allweddol i’r blaid yn genedlaethol a Chymru yn gyffredinol drwy ei gwaith. Mae hi wedi gwneud gymaint i annog aelodau ifanc o’r Blaid i gymryd rhan mwy gweithredol ac i siarad am faterion sydd yn bwysig iddynt, ac oherwydd hyn mae ganddi gefnogaeth eang. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud datganiad clir dros ddyfodol ein plaid a Chymru, drwy sicrhau bod Delyth yn dychwelyd i’r Senedd yn 2021. Felly rwy’n gofyn i chi ymuno â mi drwy wneud Delyth eich dewis cyntaf ar gyfer rhestr Dwyrain De Cymru.

I’m Morgan Bowler-Brown and I’m a young member of Plaid Cymru who has stood in a Westminster election for the party in Torfaen, and I’m supporting Delyth Jewell as my number one choice for the South Wales East list. Since becoming a Member of the Senedd Delyth has always been there to support the region and has showed she’s essential for the party nationally and Wales yn general through her work. She’s done so much to encourage young members of the party to take a more active role and to speak about issues that are important to them, and because of this she has wide support. It’s important that we make a clear statement for the future of our party and Wales by ensuring that Delyth is returned to the Senedd in 2021. So I’m asking you to join me in making Delyth your number one choice for the South Wales East list.

Cefnogwyr / Endorsements

Design a site like this with WordPress.com
Get started